Trawsnewid Parsecau

Defnyddiwch y blwch chwilio i ddod o hyd i'r trawsnewidydd metrig sydd ei angen arnoch

Parsecau

  • pc
  • Uned:

    • Hyd/pellter astronomegol

    Defnydd byd-eang:

    • Byd-eang

    Disgrifiad:

    Mae'r parsec yn uned o hyd sy'n gyfwerth â thua 20 triliwn (20,000,000,000,000) milltir, 31 triliwn cilometr, neu 206,264 gwaith y pellter o'r ddaear i'r haul.

    Mae parsec yn gyfwerth â thua 3.26 blwyddyn golau (pellter y daith pe baech yn teithio ar gyflymder golau am dair blynedd a thri mis).

    Diffiniad:

    Roedd seryddwyr yn defnyddio trigonometreg i gyfrifo'r pellter i sêr ymhell cyn i'r term parsec gael ei fathu, ond roedd yr uned newydd yn ei gwneud hi'n haws cysyniadu pellteroedd anesboniadwy.

    Parsec yw'r pellter o'r haul i wrthrych seryddol ag ongl baralacs o un arceiliad (1/3600 gradd). Gellir dod o hyd i'r ongl baralacs drwy fesur y symudiad paralecs (neu symudiad ymddangosol seren yn berthynol i sêr sefydlog ymhellach i ffwrdd) pan welir y seren o ochrau cyferbyn yr Haul (bob chwe mis ar y Ddaear). Gellir dod o hyd i'r ongl baralacs drwy haneru'r gwahaniaeth onglogl yn y mesuriadau.

    Unwaith bod yr ongl baralacs wedi'i chadarnhau, gallwch gyfrifo'r pellter i seren gan ddefnyddio trigonometreg am ein bod yn gwybod pellter y Ddaear o'r Haul. Cafodd pellter corff o'r Haul ag ongl baralacs o 1 arceiliad ei diffinio felly fel uned a, diolch i Turner, cafodd ei enwi'n barsec.

    Gyda'r parsec wedi'i ddiffinio, daeth hi'n hawdd ddod o hyd i bellteroedd anferth a'u disgrifio, gan fo

    Tarddiad:

    Bathwyd y term parsec gan y seryddwr Prydeinig Herbert Hall Turner yn 1913. Roedd uned defnyddiol o bellter mewn seryddiaeth wedi'i diffinio ond roedd yn ddi-enw, ac apeliodd y Seryddwr Brenhinol am awgrymiadau. Cafodd awgrym Turner ei dderbyn - gyda pharsec yn deillio o ddiffiniad yr uned fel y pellter o'r haul i wrthrych seryddol sydd ag ongl baralacs o un arceiliad.

    Cyfeiriadau cyffredin:

    • Proxima Centauri – mae'r seren agosaf i'r Ddaear ar wahân i'r Haul yn 1.29 parsec i ffwrdd.
    • Mae canol y Llwybr Llaethog dros 8kpc o'r ddaear.

    Cyd-destun ei ddefnydd:

    Seryddiaeth - er gwaetha'r pellter anferth y mae'n ei ddisgrifio, uned gymharol fach yw'r parsec yn nhermau seryddol. Defnyddir y megaparsec (Mpc) yn gyffredin i ddisgrifio un miliwn parsec o bellter.

    Unedau cydrannol:

    • Dim

    Lluosrifau:

    • ciloparsec (kpc) – 1,000 pc
    • megaparsec (Mpc) – 1,000,000 pc
    • gigaparsec (Gpc) – 1,000,000,000 pc