Uned o hyd sy'n gyfwerth â 66 troedfedd sy'n cael ei defnyddio'n arbennig mewn arolygon mesur tir cyhoeddus yr Unol Daleithiau. Roedd yr offeryn mesur gwreiddiol (cadwynfedd Gunter) yn gadwyn o 100 dolen haearn, bob un yn 7.92 modfedd o hyd. Dechreuodd tapiau o rubannau dur ddisodli cadfwynfeddi tua 1900, ond mae tapiau mesur tir yn dal i gael eu galw'n "gadwynfeddi" ("chains" yn Saesneg) yn aml ac mae'r dull o fesur â thâp yn cael ei alw'n "mesur tir â chadwynfedd" ("chaining" yn Saesneg). Mae'r gadwynfedd yn uned gyfleus mewn arolygon stentaidd am fod 10 cadwynfedd sgwâr yn cyfateb i 1 erw.
Mae'r parsec yn uned o hyd sy'n gyfwerth â thua 20 triliwn (20,000,000,000,000) milltir, 31 triliwn cilometr, neu 206,264 gwaith y pellter o'r ddaear i'r haul.
Mae parsec yn gyfwerth â thua 3.26 blwyddyn golau (pellter y daith pe baech yn teithio ar gyflymder golau am dair blynedd a thri mis).