Trawsnewid Cilometrau

Defnyddiwch y blwch chwilio i ddod o hyd i'r trawsnewidydd metrig sydd ei angen arnoch

Cilometrau

  • Km
  • Bratiaith: ‘k’ neu ‘kays’ – ar lafar
  • Uned:

    • Hyd / pellter

    Defnydd byd-eang:

    • Defnyddir y cilometr yn fyd-eang fel uned i fynegi'r pellter rhwng lleoliadau daearyddol ar y tir, ac yn y rhan fwyaf o'r gwledydd, hon yw'r uned swyddogol at y diben hwn. Y prif eithriadau yw'r Deyrnas Unedig ac Unol Daleithiau America, lle mai'r filltir yw'r uned safonol.

    Diffiniad:

    Uned o hyd yn y system fetrig yw'r cilometr, sy'n gyfwerth â mil metr.

    Mae 1Km yn gyfwerth â 0.6214 milltir.1km

    Tarddiad:

    Mabwysiadwyd y system pwyso a mesur fetrig neu ddegol yn Ffrainc yn 1795. Gan ddefnyddio'r metr fel sail i fesur hyd, mae'r system bellach yn cael ei defnyddio'n swyddogol ar draws y byd, gyda rhai eithriadau nodedig.

    Cyfeiriadau cyffredin:

    • Mae adeilad talaf y byd, Burk Khalifa yn Dubai, yn 0.82984km o uchder.
    • Mae Rhaeadrau Niagara ar y ffin rhwng Unol Daleithiau America a Chanada tua 1km o led.
    • Mae copa Mynydd Everest yn 8.848Km uwchben lefel y môr.
    • Mae Paris yn Ffrainc yn 878km o Berlin yn yr Almaen, er y byddai angen i chi wneud taith dros 1050km i fynd o un lle i'r llall ar drafnidiaeth dros y tir.
    • Y pellter o'r Ddaear i'r Lleuad yw 384,000km ar gyfartaledd.

    Cyd-destun ei ddefnydd:

    Defnyddir y cilometr yn fwyaf cyffredin ar arwyddion ffordd i nodi'r pellter sy'n weddill i deithio i leoliad penodol. Dyma'r uned fwyaf poblogaidd hefyd i ddisgrifio'r pellter rhwng dau leoliad ar linell unionsyth (ar hyd arwyneb y Ddaear)

    Unedau cydrannol:

    Lluosrifau:

    • Mae unedau o hyd/pellter yn y raddfa fetrig yn seiliedig ar ffracsiynau neu luosrifau un metr, felly nid oes lluosrifau swyddogol o'r cilometr.
    • Fodd bynnag, mae mesuriadau metrig o hyd/pellter sy'n fwy na chilometr yn gallu cael eu mynegi yn nhermhau cilometrau.
    • Megametr = 1 filiwn metr (neu 10,000Km)
    • Gigametr = 1 biliwn metr (neu 1,000,000Km)