Roedd seryddwyr yn defnyddio trigonometreg i gyfrifo'r pellter i sêr ymhell cyn i'r term parsec gael ei fathu, ond roedd yr uned newydd yn ei gwneud hi'n haws cysyniadu pellteroedd anesboniadwy.
Parsec yw'r pellter o'r haul i wrthrych seryddol ag ongl baralacs o un arceiliad (1/3600 gradd). Gellir dod o hyd i'r ongl baralacs drwy fesur y symudiad paralecs (neu symudiad ymddangosol seren yn berthynol i sêr sefydlog ymhellach i ffwrdd) pan welir y seren o ochrau cyferbyn yr Haul (bob chwe mis ar y Ddaear). Gellir dod o hyd i'r ongl baralacs drwy haneru'r gwahaniaeth onglogl yn y mesuriadau.
Unwaith bod yr ongl baralacs wedi'i chadarnhau, gallwch gyfrifo'r pellter i seren gan ddefnyddio trigonometreg am ein bod yn gwybod pellter y Ddaear o'r Haul. Cafodd pellter corff o'r Haul ag ongl baralacs o 1 arceiliad ei diffinio felly fel uned a, diolch i Turner, cafodd ei enwi'n barsec.
Gyda'r parsec wedi'i ddiffinio, daeth hi'n hawdd ddod o hyd i bellteroedd anferth a'u disgrifio, gan fo
Uned o hyd sy'n gyfwerth â 66 troedfedd sy'n cael ei defnyddio'n arbennig mewn arolygon mesur tir cyhoeddus yr Unol Daleithiau. Roedd yr offeryn mesur gwreiddiol (cadwynfedd Gunter) yn gadwyn o 100 dolen haearn, bob un yn 7.92 modfedd o hyd. Dechreuodd tapiau o rubannau dur ddisodli cadfwynfeddi tua 1900, ond mae tapiau mesur tir yn dal i gael eu galw'n "gadwynfeddi" ("chains" yn Saesneg) yn aml ac mae'r dull o fesur â thâp yn cael ei alw'n "mesur tir â chadwynfedd" ("chaining" yn Saesneg). Mae'r gadwynfedd yn uned gyfleus mewn arolygon stentaidd am fod 10 cadwynfedd sgwâr yn cyfateb i 1 erw.