Defnyddiwch y blwch chwilio i ddod o hyd i'r trawsnewidydd metrig sydd ei angen arnoch

Doler yr Unol Daleithiau

Doler yr  Unol Daleithiau yw arian cyfred swyddogol Unol Daleithiau America ac yn un o'r mathau o arian cyfred mwyaf pwerus yn y byd. Dyma'r arian cyfred a fasnachir mwyaf yn y byd a hwn hefyd yw'r arian cadw mwyaf. Mae sawl gwlad yn defnyddio Doler yr Unol Daleithiau fel ei phrif arian cyfred neu ei hail arian cyfred. Mae 100 Sent mewn Doler ac mae darnau arian ar gael mewn 1s, 5s, 10s, 25s, 50s a $1. Mau papurau banc ar gael mewn $1, $2, $5, $10, $20, $50 a $100.

Ewro

Yr Ewro yw arian cyfred swyddogol 18 wlad yn Ardal yr Ewro. Rheolir yr arian cyfred gan Fanc Canolog Ewrop (ECB) sydd wedi'i leoli yn Frankfurt mewn cydweithrediad â'r System Ewro. Er ei fod yn arian cyfred modern, dyma ail arian cadw mwyaf y byd yn barod a'r ail arian cyfred a fasnachir mwyaf yn y byd. Mae darnau arian yr Ewro ar gael mewn 1s, 2s, 5s, 10s, 20s, 50s, €1 a €2. Mae papurau banc yr Ewro ar gael mewn €5, €10, €20, €50, €100, €200 a €500. Mae gan bob darn arian yr Ewro ochr yn gyffredin sy'n dangos y swm a map o Ewrop. Ar yr ochr arall, mae gan bob wlad ei ffurf ei hun sy'n cynrychioli ei diwylliant. Er y gwahaniaethau hyn, mae pob un o ddarnau arian yr Ewro yn ddilys ym mhob un o wledydd Ardal yr Ewro. Mae papurau banc yr Ewro yr un peth ym mhob un o wledydd Ardal yr Ewro. Cawsant eu dylunio gan yr Awstriad, Robert Kalina, ac mae gan pob papur banc ei liw ei hun gan gynrychioli cyfnod hanesyddol o bensaernïaeth Ewrop gyda ffenestri a giatiau ar y ffrynt a phontydd ar y cefn

Punt Prydain

Punt Sterling yw arian cyfred swyddogol y Deyrnas Unedig, 9 tiriogaeth Brydeinig, Jersey, Guernsey ac Ynys Manaw. Mae'r punt yn cynnwys 100 ceiniog ac mae darnau arian ar gael mewn 1c, 2c, 5c, 10c, 20c, 50c, £1, £2 a £5. Mae papurau banc ar gael mewn £5, £10, £20 a £50. Mae'r punt sterling, a sefydlwyd yn y 5ed ganrif, yw arian cyfred hynaf y byd sy'n dal i gael ei ddefnyddio heddiw.

Ien Siapan

Ien Siapan (wedi'i hynganu'n "en" yn Siapanaeg) yw arian cyfred swyddogol Siapan. Yr arian cyfred, sydd wedi'i ddefnyddio ers 1871, yw'r trydydd arian cyfred a fasnachir mwyaf yn y byd, Mae darnau arian yr arian cyfred ar gael mewn ¥1, ¥5, ¥10, ¥50, ¥100 a ¥500 ac mae papurau banc ar gael mewn ¥1000, ¥2000, ¥5000 a ¥10000.  Mae un Ien yn gyfwerth â 100 Sen a 1000 Rin. I ddiogelu defnyddwyr rhag papurau banc ffug, mae awdurodau Siapan yn cymryd gofal mawr i sicrhau bod papurau banc yn cael eu cadw'n lân a heb ddifrod drwy archwilio papurau banc a gaiff eu dychwelyd i'r banc a disodli a dinistrio unrhyw rai nad ydynt yn cyrraeddd safon benodol. Mae twll yng nghanol darnau arian ¥5 a ¥50.