Trawsnewid Celsius

Defnyddiwch y blwch chwilio i ddod o hyd i'r trawsnewidydd metrig sydd ei angen arnoch

Celsius

  • Canradd
  • gr C
  • gradd C
  • Uned:

    • Tymheredd

    Defnydd byd-eang:

    • Disodlodd graddfa Celsius, a ddefnyddir eisoes yn eang yn Ewrop, raddfa Fahrenheit yn y rhan fwyaf o'r gwledydd rhwng canol a diwedd yr 20fed ganrif, er mai Fahrenheit yw graddfa swyddogol yr Unol Daleithiau, Ynysoedd Caiman a Belîs o hyd.

    Diffiniad:

    Er iddi gael ei diffinio'n gychwynnol gan rewbwynt dŵr (ac yn ddiweddarach gan doddbwynt rhew), erbyn hyn mae graddfa Celsius yn raddfa ddeilliadol yn swyddogol, wedi'i diffinio mewn perthynas â graddfa tymheredd Kelvin.

    Erbyn hyn mae sero ar raddfa Celsius (0 °C) wedi'i ddiffinio'n gyfwerth â 273.15 K, gyda gwahaniaeth o 1 gradd C mewn tymheredd sy'n gyfwerth â gwahaniaeth o 1 K, sy'n golygu bod maint yr uned yn y ddwy raddfa yr un peth. Mae hyn yn golygu bod 100 °C, a gafodd ei diffinio'n flaenorol fel berwbwynt dŵr bellach wedi'i diffinio'n gyfwerth â 373.15 K.

    System gyfrwng yw graddfa Celsius, nid system gymhareb, sy'n golygu ei bod yn dilyn raddfa berthynol ond nid graddfa absoliwt. Gellir gweld hyn am fod y cyfrwng tymheredd rhwng 20 °C a 30 °C yr un peth â rhwng 30 °C a 40 °C, ond nid oes gan 40 °C ddwywaith yr ynni gwres aer ag 20 °C.

    Mae gwahaniaeth tymheredd o 1 gradd C yn gyfwerth â gwahaniaeth tymheredd o 1.8°F.Tarddiad:

    Enwyd graddfa Celsius ar ôl y seryddwr o Sweden Anders Celsius (1701-1744). Yn 1742, creodd Celsius raddfa tymheredd lle mai 0 gradd oedd bwerwbwynt dŵr a lle mai 100 gradd oedd rhewbwynt dŵr.

    Tua'r amser hwn, datblygodd ffisegyddion eraill raddfa debyg ar eu pennau eu hunain ond i'r gwrthwyneb, gyda 0 gradd yn doddbwynt rhew a 100 gradd yn berwbwynt dŵr. Cafodd y raddfa 'ymlaen' newydd hon ei mabwysiadu'n eang ar draws Ewrop gyfandirol, gan gael ei chyfeirio ati'n gyffredinol fel graddfa ganradd.

    Enwyd y raddfa'n swyddogol fel 'Graddfa Celsius' yn 1948 i atal dryswch rhwng y defnydd o ganradd fel mesuriad onglog.

    Cyfeiriadau cyffredin:

    • Sero Absoliwt, -273.15 °C
    • Toddbwynt rhew, 0 °C (mewn gwirionedd -0.0001 °C)
    • Diwrnod twym yr haf mewn hinsawdd dymherus, 22 °C
    • Tymheredd arferol corff bod dynol, 37 °C
    • Berwbwynt dŵr ar 1 atmosffer, 99.9839 °C