Mae Rømer yn raddfa dymheredd a enwyd ar ôl y seryddwr Ole Christensen Rømer o Ddenmarc, a'i cynigiodd yn 1701. Yn y raddfa hon, cafodd sero ei osod yn wreiddiol gan ddefnyddio heli wedi'i rewi. Diffiniwyd berwbwynt dŵr yn 60 gradd. Yna welodd Rømer fod rhewbwynt dŵr pur tua wythfed ran o'r ffordd (tua 7.5 gradd) rhwng y ddau bwynt hyn, felly ailddiffiniodd y pwynt is i fod yn rhewbwynt dŵr ar 7.5 gradd yn union. Dysgodd dyfeisiwr graddfa Fahrenheit, Daniel Gabriel Fahrenheit, am waith Rømer ac aeth ati i gynyddu nifer y rhaniadau â phedwar ffactor gan sefydlu'r hyn a elwir heddiw yn raddfa Fahrenheit.
Mae graddfa Réaumur a elwir hefyd yn "ymraniad octogesimal", yn raddfa dymheredd lle bo dŵr yn rhewi ar 0 gradd a lle bo dŵr yn berwi ar 80 gradd. Enwir y raddfa ar ôl René Antoine Ferchault de Réaumur a gynigiodd rywbeth tebyg yn ôl yn 1730.