Trawsnewid Troedfeddi Ciwbig

Defnyddiwch y blwch chwilio i ddod o hyd i'r trawsnewidydd metrig sydd ei angen arnoch

Troedfeddi Ciwbig

  • Nid oes symbol y cytunwyd arno'n fyd-eang ar gyfer troedfedd/troedfeddi sgwâr.
  • Mae amryw fyrfoddau'n cael eu defnyddio'n Saesneg, yn dibynnu ar y cyd-destun, gan gynnwys (ond nid yn gyfyngedig iddynt) cubic ft, cu ft, cb ft, cbf, ft3, foot3, feet³, ft³.
  • Uned:

    • Cyfaint (mesur lle tri dimensiwn)

    Defnydd byd-eang:

    • Defnyddir y droedfedd giwbig yn bennaf yn yr Unol Daleithiau, Canada a'r Deyrnas Unedig i fesur cyfaint.

    Disgrifiad:

    Mae'r droedfedd giwbig yn uned o gyfaint a ddefnyddir yn y systemau imperial a systemau mesur arferol yr Unol Daleithiau.

    Gellir defnyddio'r droedfedd giwbig i ddisgrifio cyfaint deunydd penodol, neu gapasiti cynhwysydd i ddal deunydd o'r fath.

    Diffiniad:

    Mesuriad ciwbig yw deilliant tri dimensiwn mesuriad llinellol, felly diffinnir troedfedd giwbig yn gyfaint ciwb ag ochrau 1 droedfedd o hyd.

    Yn nhermau metrig, mae troedfedd giwbig yn giwb ag ochrau 0.3048 metr o hyd. Mae un droedfedd giwbig yn gyfwerth â thua 0.02831685 metr ciwbig, neu 28.3169 litr.

    Cyfeiriadau cyffredin:

    • Mae gan gynhwysydd cludo safonol (20 troedfedd x 8 troedfedd x 8 troedfedd 6 modfedd) gyfaint o 1,360 troedfedd giwbig.
    • Byddai 19-22 troedfedd giwbig yn disgrifio oergell o faint cyfartalog i deulu o bedwar.

    Cyd-destun ei ddefnydd:

    Mae'r droedfedd giwbig safonol (scf) yn mesur maint nwy o dan amodau wedi'u diffinio (fel arfer 60 °F ac 1 atm o bwysedd).

    Wrth ei chymhwyso i ddeunydd benodol o dan amodau wedi'u diffinio, mae'r droedfedd giwbig yn peidio â bod yn uned cyfaint ac yn dod yn uned maint.

    Defnyddir y droedfedd giwbig yn aml i ddisgrifio capasiti storio teclynnau'r cartref fel oergelloedd, ac yn y diwydiant cynhwysion cludo.

    Mae darparwyr storio masnachol yn disgrifio'r unedau storio y maent yn eu darparu'n gyffredinol yn nhermau troedfedd ciwbig.

    I gyfrifo cyfaint eitem neu le mewn troedfedd ciwbig, mesurwch yr hyd, y lled a'r uchder mewn troedfeddi a lluoswch y canlyniadau â'i gilydd.

    Er enghraifft, gallai uned storio sy'n 10 troedfedd o hyd, 6 troedfedd  o led ac yn 8 troedfedd o uchder gael ei disgrifio â chapasiti o 480 troedfedd ciwbig (10 x 6 x 8 = 480).

    Unedau cydrannol:

    • Mae troedfedd giwbig yn hafal i 1,728 modfedd giwbig (gan fod troedfedd yn ddeuddeg modfedd, gellir dychmygu bod troedfedd giwbig yn giwb ag ochrau sy'n mesur deuddeg modfedd, neu 12 x 12 x 12 o giwbiau un fodfedd wedi'u pentyrru ar ben ei gilydd).
    • Mewn arfer, mae troedfeddi ciwbig a modfeddi ciwbig yn tueddu i fod yn unedau ar wahân na fyddent yn cael eu defnyddio gyda'i gilydd.

    Lluosrifau:

    • 1 llath giwbig = 27 troedfedd sgwâr
    • Un llath yw tair troedfedd, felly gall llath giwbig gael ei dychmygu fel ciwb ag ochrau tair troedfedd, neu fel ciwb o 27 ciwb unigol ag ochrau un droedfedd o hyd.
    • Mewn arfer, disgrifir lluosrifau troedfedd giwbig (fel yn y diwydiant olew a nwy) yn Mcf (mil troedfedd giwbig), MMcf (miliwn troedfedd giwbig), Bcf (biliwn troedfedd giwbig) gyda Tcf yn driliwn troedfedd giwbig a Qcf yn gwadriliwn troedfedd giwbig.