Mae milltiroedd môr yn mesur pellter. Un filltir fôr yw pellter onglog arc 1 funud ar arwyneb y ddaear. Gan fod y rhain yn amrywio ychydig (6108' ar gylchedd y pegynau a 6046' ar y cyhydedd) mabwysiadwyd 6080 (sef ei werth bras yn y Sianel. Mae'r filltir fôr ryngwladol yn 1852 metr, felly mae ond ychydig yn wahanol i filltir fôr y DU.
Uned o hyd sy'n gyfwerth â 66 troedfedd sy'n cael ei defnyddio'n arbennig mewn arolygon mesur tir cyhoeddus yr Unol Daleithiau. Roedd yr offeryn mesur gwreiddiol (cadwynfedd Gunter) yn gadwyn o 100 dolen haearn, bob un yn 7.92 modfedd o hyd. Dechreuodd tapiau o rubannau dur ddisodli cadfwynfeddi tua 1900, ond mae tapiau mesur tir yn dal i gael eu galw'n "gadwynfeddi" ("chains" yn Saesneg) yn aml ac mae'r dull o fesur â thâp yn cael ei alw'n "mesur tir â chadwynfedd" ("chaining" yn Saesneg). Mae'r gadwynfedd yn uned gyfleus mewn arolygon stentaidd am fod 10 cadwynfedd sgwâr yn cyfateb i 1 erw.