Tabl trawsnewid Celsius

Defnyddiwch y blwch chwilio i ddod o hyd i'r trawsnewidydd metrig sydd ei angen arnoch

Celsius

Er iddi gael ei diffinio'n gychwynnol gan rewbwynt dŵr (ac yn ddiweddarach gan doddbwynt rhew), erbyn hyn mae graddfa Celsius yn raddfa ddeilliadol yn swyddogol, wedi'i diffinio mewn perthynas â graddfa tymheredd Kelvin.

Erbyn hyn mae sero ar raddfa Celsius (0 °C) wedi'i ddiffinio'n gyfwerth â 273.15 K, gyda gwahaniaeth o 1 gradd C mewn tymheredd sy'n gyfwerth â gwahaniaeth o 1 K, sy'n golygu bod maint yr uned yn y ddwy raddfa yr un peth. Mae hyn yn golygu bod 100 °C, a gafodd ei diffinio'n flaenorol fel berwbwynt dŵr bellach wedi'i diffinio'n gyfwerth â 373.15 K.

System gyfrwng yw graddfa Celsius, nid system gymhareb, sy'n golygu ei bod yn dilyn raddfa berthynol ond nid graddfa absoliwt. Gellir gweld hyn am fod y cyfrwng tymheredd rhwng 20 °C a 30 °C yr un peth â rhwng 30 °C a 40 °C, ond nid oes gan 40 °C ddwywaith yr ynni gwres aer ag 20 °C.

Mae gwahaniaeth tymheredd o 1 gradd C yn gyfwerth â gwahaniaeth tymheredd o 1.8°F.