Trawsnewid Fahrenheit

Defnyddiwch y blwch chwilio i ddod o hyd i'r trawsnewidydd metrig sydd ei angen arnoch

Fahrenheit

  • Uned:

    • Tymheredd

    Defnydd byd-eang:

    • Disodlwyd graddfa Fahrenheir gan raddfa Celsius yn y rhan fwyaf o'r gwledydd rhwng canol a diwedd yr 20fed ganrif, er mai Fahrenheit yw graddfa swyddogol yr Unol Daleithiau, Ynysoedd Caiman a Belîs o hyd.
    • Mae Canada yn cadw Fahrenheit fel graddfa ategol sy'n gallu cael ei defnyddio ochr yn ochr â Celsius, ac yn y DU mae graddfa Fahrenheit yn parhau i gael ei defnyddio'n anffurfiol, yn arbennig wrth fynegi tywydd poeth (er bod tywydd oerach fel arfer yn cael ei fenygi drwy ddefnyddio graddfa Celsius).

    Diffiniad:

    Mae Fahrenheit yn raddfa tymheredd thermodynamig, lle mai 32 gradd Fahrenheit (°F) yw rhewbwynt dŵr a lle mai 212°F yw berwbwynt dŵr (mewn pwysedd atmosfferig safonol). Mae hyn yn golygu bod berwbwynt a rhewbwynt dŵr yn 180 gradd o'i gilydd. Felly, mae gradd ar raddfa Fahrenheit yn 1/180 o'r cyfrwng rhwng rhewbwynt a berwbwynt dŵr. Diffinnir sero absoliwt yn -459.67°F.

    Mae gwahaniaeth tymheredd o 1°F yn gyfwerth â gwahaniaeth tymheredd o 0.556°C.

    Tarddiad:

    Fe'i cynigiwyd yn 1724 gan y ffisegydd o'r Almaen Daniel Gabriel Fahrenheit (1686–1736) a'i enwyd ar ei ôl. Arloesodd Fahrenheit y gwaith o weithgynhyrchu thermomedrau gan ddefnyddio mercwri, a sefydlodd mai 0°F oedd y tymheredd sefydlog pan gaiff symiau cyfwerth o rew, dŵr a halen eu cymysgu â'i gilydd. Yna ddiffiniodd 96°F fel y tymheredd "pan gaiff thermomedr ei ddal yn y geg neu o dan gesail dyn byw ag iechyd da".

    O ganlyniad, mae tymheredd rhewi dŵr wedi'i aildiffinio'n 32°F ar ei union, a thymheredd corff dynol normal yn 98.6°F.

    Cyfeiriadau cyffredin:

    • Sero Absoliwt, -459.67°F
    • Rhewbwynt dŵr, 32°F
    • Diwrnod twym yr haf mewn hinsawdd dymherus, 22°F
    • Tymheredd arferol corff bod dynol, 98.6°F
    • Berwbwynt dŵr ar 1 atmosffer, 212°F