Trawsnewid Tunnell i Caratau

Mae mwy nag un math o Tunnell. Defnyddiwch yr amrywiad priodol o'r rhestr isod.

  1. Tunelli Metrig i Caratau

  2. Tunelli Hirion (y DU) i Caratau

  3. Tunelli Byrion (y DU) i Caratau

  4. Tunelli i Caratau

Tunnell

Mae tri math o dunnell - tunnell hir, tunnell fer a thunnell fetrig. Dewiswch uned fwy penodol.

Caratau

Mae'r carat, sy'n cael ei dalfyrru'n "ct." a'i sillafu â "c" yn ffordd o fesur pwysau gemfeini. Mae un carat yn gyfwerth â 1/5 gram (200 miligram). Mae meini'n cael eu mesur i'r canfed carat agosaf. Mae canfed carat hefyd yn cael ei alw'n bwynt. Felly mae maen .10 carat yn gallu cael ei alw'n naill ai'n 10 pwynt neu'n 1/10 carat. Cyfeirir at feini bach fel 0.5 a .10ct yn aml fesul dynodiad pwynt. Sylwer mai mesuriad o burdeb aloi aur yw karat gyda'r llythyren "K". Mae deimwnt crwn un carat o gyfran gyfartalog tua 6.5mm mewn diamedr. Sylwer bod y berthynas hon rhwng pwysau a maint yn wahanol ym mhob teulu maen. Er enghraifft mae rhuddem a saffir yn drymach na deimwnt (yn dechnegol, mae disgyrchiant penodol uwch ganddynt, felly mae rhuddem neu saffir un carat yn llai o ran maint na deimwnt un carat. Gweler Pwyso a Mesur Aur, Arian a Gemau Gwerthfawr am ragor o wybodaeth.