Trawsnewid Cilogramau

Defnyddiwch y blwch chwilio i ddod o hyd i'r trawsnewidydd metrig sydd ei angen arnoch

Cilogramau

  • kg
  • cilo (anffuriol)
  • Uned:

    • Màs
    • Pwysau (mewn materion anwyddonol)

    Defnydd byd-eang:

    • Byd-eang

    Disgrifiad:

    Y cilogram yw'r uned sylfaenol o fàs yn y System Ryngwladol (SI) o Unedau, ac fe'i dderbynnir bob dydd fel uned o bwysau (y grym dysgyrchedd sy'n gweithredu ar unrhyw wrthrych).

    Mae'r cilogram bron yn gyfwerth yn union ag un litr o ddŵr.

    Diffiniad:

    Diffinnir bod y kg yn gyfwerth â màs Prototeip Rhyngwladol y Cilogram (IPK), sef bloc aloi platinwm-iridiwm a gafodd ei wneud yn 1889 ac sydd wedi'i gadw yn y Biwro Pwysau a Mesuriadau Rhyngwladol yn Sèvres, Ffrainc.

    Dyma'r unig uned yn y System Ryngwladol sydd wedi'i diffinio gan wrthrych ffisegol yn hytrach na nodwedd ffisegol sylfaenol a all gael ei hatgynhyrchu mewn labordai.

    Tarddiad:

    Am gyfnod byr, roedd y bedd (hefyd yn safon cyfeirio metelaidd) yn cael ei ddiffinio'n fil  gram, nes iddo gael ei ddisodli gan y cilogram yn 1799.

    Yn 1795 cyflwynwyd systemau mesur metrig yn Ffrainc a diffiniwyd y gram yn "bwysau absoliwt cyfaint dŵr pur sy'n gyfwerth â chanfed metr, ac ar dymhered toddi rhew".

    Enwyd y cilogram (sy'n deillio o'r gair Groegeg chilioi [mil] a gramma [pwysyn bach] yn ffordd fwy ymarferol o fesur màs niferoedd mwy o faint mewn masnach, ac roedd yn cael ei ddefnyddio yn uned sylfaenol màs ym mhob system mesur fetrig.

    Roedd y System Ryngwladol o Unedau a gyhoeddwyd yn 1960 yn defnyddio'r cilogram yn uned syflaenol màs, ac mae wedi'i fabwysiadu gan bron bob gwlad ar y ddaear (gyda rhai eithriadau nodedig fel yr Unol Daleithiau).

    Cyfeiriadau cyffredin:

    • Mae cilogram yn pwyso tuag un botel litr o ddiod meddal.
    • Gwerthir siwgr fel arfer fesul 1kg.
    • Mae pêl-fasged arferol yn pwyso tua 1kg.

    Cyd-destun ei ddefnydd:

    Defnyddir y cilogram yn fyd-eang bob dydd fel uned i fesur màs a phwysau.

    Hwn hefyd yw uned fas màs pob system fesur m.k.s, lle mae'r metr (m), y cilogram (k) a'r eiliad (s) yn cael eu defnyddio mewn perthynas â'i gilydd er mwyn diffinio cysyniadau eraill, fel y newton ar gyfer grym a'r pascal i fesur pwysedd.

    Unedau cydrannol:

    Lluosrifau: