Cyn tua'r 14eg ganrif, roedd dau ganbwys yn Lloegr, un yn 100 pwys, a'r llall yn 108 pwys. Yn 1340, newidiodd Brenin Edward II werth y stôn o 12 pwys i 14 pwys. Gan fod canpwys yn 8 stôn, daeth y canpwys a oedd yn pwyso 100 pwys i gael ei alw'n 112 pwys.
Mae'r carat, sy'n cael ei dalfyrru'n "ct." a'i sillafu â "c" yn ffordd o fesur pwysau gemfeini. Mae un carat yn gyfwerth â 1/5 gram (200 miligram). Mae meini'n cael eu mesur i'r canfed carat agosaf. Mae canfed carat hefyd yn cael ei alw'n bwynt. Felly mae maen .10 carat yn gallu cael ei alw'n naill ai'n 10 pwynt neu'n 1/10 carat. Cyfeirir at feini bach fel 0.5 a .10ct yn aml fesul dynodiad pwynt. Sylwer mai mesuriad o burdeb aloi aur yw karat gyda'r llythyren "K". Mae deimwnt crwn un carat o gyfran gyfartalog tua 6.5mm mewn diamedr. Sylwer bod y berthynas hon rhwng pwysau a maint yn wahanol ym mhob teulu maen. Er enghraifft mae rhuddem a saffir yn drymach na deimwnt (yn dechnegol, mae disgyrchiant penodol uwch ganddynt, felly mae rhuddem neu saffir un carat yn llai o ran maint na deimwnt un carat. Gweler Pwyso a Mesur Aur, Arian a Gemau Gwerthfawr am ragor o wybodaeth.