Trawsnewid Troedfeddi

Defnyddiwch y blwch chwilio i ddod o hyd i'r trawsnewidydd metrig sydd ei angen arnoch

Troedfeddi

  • troedfedd
  • ' (y symbol cyntaf)
  • (Gall deg troedfedd gael ei chynrychioli gan 10 troed neu 10')
  • Uned:

    • Hyd / pellter

    Defnydd byd-eang:

    • Fe'i defnyddir yn bennaf fel uned mesur swyddogol yn yr Unol Daleithiau. Mae Canada hefyd yn cydnabod y droedfedd fel uned mesur amgen (i'r system fetrig safonol), ac mae'r droedfedd yn parhau i gael ei defnyddio'n aml yn y Deyrnas Unedig.
    • Defnyddir y droedfedd yn fyd-eang i fesur uchder yn y diwydiant awyrennau.

    Disgrifiad:

    Mae'r droedfedd yn uned o hyd a ddefnyddir yn y systemau imperial a systemau mesur arferol yr Unol Daleithiau, gan gynrychioli 1/3 llathen, ac mae wedi'i his-rannu'n ddeuddeg modfedd.

    Diffiniad:

    Yn 1959, diffiniwyd gan y cytundeb llathau a phwysau rhyngwladol (rhwng yr Unol Daleithiau a gwledydd y Gymanwlad) bod llathen yn 0.9144 metr yn union ac, yn ei dro, diffiniwyd troedfedd yn 0.3048 metr (304.8 mm) yn union.

    Tarddiad:

    Mae'r droedfedd wedi'i defnyddio'n uned mesur drwy lawer o'r hanes sydd ar gofnod - gan gynnwys yng Ngroeg yr henfyd a'r Ymerodraeth Rufeinig - a derbyniwyd yn gyffredinol bod tarddiad yr enw yn ymwneud â maint cyfartalog troed oedolyn gwrywaidd (neu esgid o bosib). Fe'i rhannwyd yn wreiddiol yn un deg chwech o wahanol unedau, ac roedd y Rhufeiniaid hefyd yn rhannu'n droedfedd yn ddeuddeg uncia - tarddiad y term modern Saesneg am fodfedd (inch).

    Roedd y droedfedd yn parhau i gael ei defnyddio drwy Ewrop am y rhan fwyaf o'r ddwy fil o flynyddoedd diwethaf, er bod amrywiadau cenedlaethol a rhanbarthol yn gyffredin. Yn dibynnu ar ble (a phryd) yr oedd y term troedfedd yn cael ei defnyddio, gallai gyfeirio at hydoedd cyn lleied â 273 mm neu gymaint â 357 mm. Daeth y droedfedd yn gyffredin mewn gwledydydd Saesneg eu hiaith ledled y byd.

    Dirywiodd y defnydd o'r droedfedd wrth i'r rhan fwyaf o'r gwledydd fabwysiadu'r system fetrig, gan ddechrau gyda Ffrainc ar ddiwedd y 18fed ganrif.

    Cyfeiriadau cyffredin:

    • Mae gôl cymdeithas pêl-droed yn wyth troedfedd o uchder ac yn wyth llath (24 troedfedd) o led.
    • Mae "six feet under" yn ymadrodd diniwed am gael eich claddu mewn bedd, ac mae "six feet under" yn cael ei ddefnyddio'n aml i ddisgrifio rhywun sydd wedi marw.
    • Defnyddiwyd "Five Feet High and Rising" (cyfeiriad at ddŵr llifogydd) fel teitl un o ganeuon Johnny Cash. Enwodd De La Soul deitl eu halbwm hip hop yn 1989 yn "3 Feet High and Rising".

    Cyd-destun ei ddefnydd:

    Yn 1995 yn y DU nodwyd mai'r droedfedd, ynghyd â'r fodfedd, y llath a'r filltir, oedd y prif unedau mesur ar gyfer arwyddion ffordd a mesuriadau perthynol o bellter a chyflymder. Mewn cyd-destunau eraill, mesuriadau metrig yw'r brif system erbyn hyn, er bod troefeddi'n dal i gael eu defnyddio'n aml yn anffurfiol, yn enwedig gan bobl a gafodd eu geni a'u haddysgu ym Mhrydain cyn i'r system ddegol gael ei chyflwyno.

    Defnyddir y droedfedd hefyd fel uned bôn yn y system FPS sy'n defnyddio troedfeddi, pwysau ac eiliadau i greu unedau mesur eraill, fel y pwysol (ft•lb-m•s-2) uned mesur ar gyfer grym. (Mae'r system FPS wedi'i disodli i raddau helaeth gan y system metrig m.k.s, sy'n seiliedig ar fetrau, cilogramau ac eiliadau).

    Unedau cydrannol:

    • 12 modfedd= 1 troedfedd

    Lluosrifau:

    • 3 troedfedd = 1 llath