Trawsnewid Modfeddi

Defnyddiwch y blwch chwilio i ddod o hyd i'r trawsnewidydd metrig sydd ei angen arnoch

Modfeddi

  • mod
  • " (y dwbl cyntaf)
  • (Er enghraifft, gall chwe modfedd gael ei chynrychioli gan 6mod neu  6").
  • Uned:

    • Hyd / pellter

    Defnydd byd-eang:

    • Fe'i ddefnyddir yn bennaf yn yr Unol Daleithiau, Canada a'r Deyrnas Unedig.

    Disgrifiad:

    Mae'r fodfedd yn uned o hyd a ddefnyddir yn bennaf yn y systemau mesur imperial a systemau mesur arferol yr Unol Daleithiau, gan gynrychioli 1/12 troedfedd a 1/36 llath.

    Diffiniad:

    Ers 1959, mae modfedd wedi'i diffinio a'i derbyn yn rhyngwladol yn gyfwerth â 25.4mm (milimetr).

    Tarddiad:

    Mae'r fodfedd wedi'i defnyddio'n uned mesur yn y Deyrnas Unedig ers o leiaf y seithfed ganrif, ac yn 1066 fe'i diffiniwyd yn gyfwerth â hyd tair heidden sych yn gorwedd benben (diffiniad a oroesodd am sawl canrif).

    Yn y 12fed Ganrif, diffiniwyd modfedd yr Alban yn gyfwerth â lled bys bawd dyn cyffredin ar waelod yr ewin. Roedd unedau mesur tebyg yn bodoli mewn llawer o ardaloedd sydd heddiw yn Ewrop fodern, gyda'r gair am fodfedd yn yr iaith Bortiwgaleg, Ffrangeg, Eidaleg, Sbaeneg a nifer o ieithoedd eraill yr un peth neu'n debyg iawn i'r gair am fys bawd.

    Mae'r gair Saesneg am fodfedd yn deillio o'r gair Lladin 'uncia', sef deuddegfed rhan (modfedd yn draddodiadol oedd 1/12 troedfedd).

    Hyd yn oed yn yr ugeinfed ganrif roedd diffiniadau amrywiol o'r fodfedd yn cael eu defnyddio ledled y byd, er iddynt amrywio lai na 0.001%.  Yn 1930 mabwysiadwyd y fodfedd yn union 25.4mm gan Sefydliad Safonau Prydain, gyda Chymdeithas Safonau America yn gwneud yr un peth yn 1933, a'r wlad gyntaf i fabwysiadu'r diffiniad hwn yn gyfreithiol oedd Canada yn 1951.

    Yn 1959, arwyddodd yr Unol Daleithiau a gwledydd Cymanwlad Prydain gytundeb yn cytuno ar y diffiniad safonol o 25.4mm.

    Cyfeiriadau cyffredin:

    • Mae darn arian chwarter (25 sent) yr Unol Daleithiau ychydig o dan fodfedd mewn diametr.
    • Mae pelen llygad oedolyn tua modfedd mewn diametr.

    Cyd-destun ei ddefnydd:

    Yn 1995 yn y DU nodwyd mai'r fodfedd (ynghyd â'r droedfedd, y llath a'r filltir) oedd y prif unedau mesur ar gyfer arwyddion ffordd a mesuriadau perthynol o bellter a chyflymder. Mewn cyd-destunau eraill, mesuriadau metrig yw'r brif system erbyn hyn, er bod modfeddi'n dal i gael eu defnyddio'n aml yn anffurfiol, yn enwedig gan bobl a gafodd eu geni a'u haddysgu ym Mhrydain cyn i'r system ddegol gael ei chyflwyno.

    Yn yr Unol Daleithiau, mae syrfewyr yn defnyddio modfedd Arolygu yr Unol Daleithiau, a ddiffinnir fel 1/39.37 metr sy'n deillio o Orchymyn Mendenhall yn 1893 a nododd fod 1 droedfedd yn cyfateb i 1200/3937 metr.

    Unedau cydrannol:

    • Yn draddodiadol, modfedd yw'r uned gyfan leiaf o fesuriad hyd yn y system imperial, gyda mesuriadau sy'n llai na modfedd yn cael eu nodi gan ddefnyddio'r ffracsiynau 1/2, 1/4 , 1/8, 1/16, 1/32 a 1/64 modfedd. 
    • Yn y DU ar ddechrau'r 19eg ganrif, dechreuodd peirianwyr manwl ddefnyddio milfed modfedd wrth iddi ddod yn bosibl fesur â mwy o gywirdeb, a chafodd lluosrif o'r ffracsiwn newydd hwn ei alw wedi hynny yn fil ('thou' yn Saesneg).

    Lluosrifau: