Trawsnewid Galwyni'r DU

Defnyddiwch y blwch chwilio i ddod o hyd i'r trawsnewidydd metrig sydd ei angen arnoch

Galwyni'r DU

  • gal
  • g (defnyddir fel rhan o'r byrfodd myg, am filltir y galwyn yn unig)
  • Uned:

    • Cyfaint / capasiti

    Defnydd byd-eang:

    • Y D.U., Iwerddon, Canada, Gaiana

    Disgrifiad:

    Mae'r galwyn imperial yn uned o fesur cyfaint hylif neu gapasiti cynhwysydd ar gyfer storio hylif, nid màs hylif. Felly, gall fod gan alwyn o un hylif fàs gwahanol i alwyn o hylif gwahanol.

    Diffinnir galwyn imperial o hylif yn 4.54609 litr, ac felly mae'n llenwi lle sy'n gyfwerth â thua 4,546 centimetr ciwbig (ciwb o tua 16.5cm).

    Mae galwyn hylif yr Unol Daleithiau a galwyn sych yr Unol Daleithiau yn unedau gwahanol a ddiffinnir gan ddulliau gwahanol. Diffinnir galwyn hylif yr Unol Daleithiau yn 231 modfedd giwbig ac mae'n gyfwerth â thua 3.785 litr. Mae galwyn imperial yn gyfwerth â thua 1.2 galwyn hylif yr Unol Daleithiau.

    Mae galwyn sych yr Unol Daleithiau yn fesuriad a ddefnyddiwyd yn hanesyddol ar gyfer cyfaint gronynnau neu nwyddau sych eraill. Nid yw'n cael ei defnyddio'n gyffredinol mwyach ond cafodd ei diffinio'n ddiweddar yn 268.8025 modfedd giwbig.

    Diffiniad:

    Diffinnir galwyn imperial (y DU) yn swyddogol yn 4.54609 litr.

    Tarddiad:

    Mae'r galwyn yn uned hynafol o fesur cyfaint neu gapasiti ac mae wedi cael nifer o amrywiadau, rhai daearyddol ac rhai ar sail y sylwedd a oedd yn cael ei fesur.

    Yn 1824 diffiniwyd y galwyn imperial yn y DU yn gyfaint 10 pwys o ddŵr distyll a bwyswyd gan ddefnyddio dull arbennig dan amodau atmosfferig penodol. Mireiniodd Deddf Pwyso a Mesur 1963 y disgrifiad gwreiddiol fel y gofod a lenwyd gan 10 pwys (4.5 kg) o ddŵr distyll â dwysedd 0.998859g y ml a bwyswyd mewn awyr â dwysedd 0.001217g y ml yn erbyn pwysau â dwysedd 8.136g y ml.

    Ers Deddf Pwyso a Mesur 1985, mae'r galwyn imperial (y DU) wedi'i ddiffinio'n swyddogol yn 4.54609 litr.

    Cyfeiriadau cyffredin:

    • Mae barilan safonol o gwrw casgen yn y DU yn cynnwys 11 galwyn imperial.
    • Bydd galwyn imperial o betrol (gasolîn) yn pweru car teulu 4-drws arferol yn y DU (fel Vauxhall Astra 1.4i) am 46.3 milltir (74.5 Km) ar gyfartaledd.
    • Bydd galwyn imperial o betrol (gasolîn) yn pweru Porsche 911 (996) am 23.9 miltir (38.5 Km) ar gyfartaledd.

    Cyd-destun ei ddefnydd:

    Mewn ymateb i gyfarwyddeb yr UE, tynnwyd y galwyn imperial oddi ar y rhestr o brif unedau mesur a ddiffiniwyd dan y gyfraith at ddibenion masnachu a swyddogol yn Iwerddon yn 1993 ac yn y DU yn 1994.

    Fodd bynnag mae'r galwyn yn dal wedi'i gymeradwyo'n swyddogol i'w ddefnyddio fel uned eilaidd neu ategol, ac fe'i ddefnyddir yn fwyaf cyffredin yn gyhoeddus wrth gyfeirio at feintiau o betrol, ac wrth fasnachu hylifau i'w defnyddio fel cwrw a werthir mewn barilau neu gasgenni yn cynnwys lluosrifau safonol o'r galwyn imperial.

    Defnyddir y galwyn imperial yn aml yn y DU i ddisgrifio capasiti cynhwysion sy'n storio cyfeintiau mawr o hylif, fel casgenni dŵr. 

    Yng Nghanada, defnyddir y galwyn imperial yn bennaf wrth gyfeirio at yr economi tanwydd. Gwerthir gasolîn fesul litr, ond mynegir economi tanwydd yn aml ar ffurf galwyn y filltir.

    Unedau cydrannol:

    • Gellir cyfeirio at alwyni imperial fel lluosrif o sawl uned wahanol, ond yr uned y cyfeirir ati'n fwyaf cyffredin yn y DU yw peint.
    • 1 galwyn imperial = 8 o beintiau

    Lluosrifau:

    • 36 Galwyn imperial = 1 Baril Imperial (y DU)