Trawsnewid Troedfedd Sgwâr

Defnyddiwch y blwch chwilio i ddod o hyd i'r trawsnewidydd metrig sydd ei angen arnoch

Troedfedd Sgwâr

  • troedfedd sgwâr
  • troedfedd²
  • Wrth ddisgrifio pensaernïaeth neu eiddo tiriog, mae troedfedd sgwâr yn cael ei chynrychioli'n aml gan sgwâr â llinell neu slaes drwyddi.
  • Uned:

    • Arwynebedd

    Defnydd byd-eang:

    • Defnyddir y droedfedd sgwâr yn bennaf yn yr Unol Daleithiau, Canada a'r Deyrnas Unedig i fesur arwynebedd.

    Disgrifiad:

    Mae'r droedfedd sgwâr yn uned o arwynebedd a ddefnyddir yn y systemau imperial a systemau mesur arferol yr Unol Daleithiau.

    Mesuriad sgwâr yw deilliant dau ddimensiwn mesuriad llinellol, felly diffinnir troedfedd sgwâr yn arwynebedd sgwâr ag ochrau 1 droedfedd o hyd.

    Diffiniad:

    Yn nhermau metrig, mae troedfedd sgwâr yn sgwâr ag ochrau 0.3048 metr o hyd. Mae un droedfedd sgwâr yn gyfwerth â 0.09290304 metr sgwâr.

    Cyfeiriadau cyffredin:

    • Gyda'i gilydd, mae gan chwe llawr y Tŷ Gwyn (Washington D.C, U.D.A) arwynebedd llawr o tua 55,000 troedfedd sgwâr.
    • Yn 2003, roedd gan dŷ newydd cyfartalog y DU gynllun llawr o 818 troedfedd², tra bod tŷ newydd yn yr Unol Daleithiau bron deirgwaith yn fwy ar gyfartaledd, gyda chynllun llawr o 2,300 troedfedd².

    Cyd-destun ei ddefnydd:

    Defnyddir y droedfedd sgwâr yn bennaf i ddynodi arwynebedd pensaernïaeth, eiddo tirol a chynlluniau lle mewnol.

    Gellir defnyddio troedfedd sgwâr i ddisgrifio arwynebedd unrhyw arwyneb fel cynllun llawr, wal neu do, tra bod erw'n cael ei defnyddio'n unig i ddisgrifio arwyneb darn o dir.

    1 droedfedd sgwâr = tua 0.000022959 erw.

    1 erw = 43,560 troedfedd sgwâr.

    I gyfrifo arwynebedd ystafell mewn trodfedd sgwâr, mesurwch hyd a lled yr ystafell mewn troedfeddi, yna lluoswch y ffigurau hyn â'i gilydd i roi arywnebedd mewn troedfedd².

    Er enghraifft, byddai ystafell sy'n mesur 12 troedfedd x 15 troedfedd yn cael ei disgrifio ag arwynebedd o 180 troedfedd² (12 x 15 = 180).

    Wrth ddefnyddio troeddfeddi sgwâr, mae'n bwysig cofio bod y ffigur mewn troeddfeddi sgwâr yn cyfeirio at gyfanswm arwynebedd lle penodol, nid dimensiynau go iawn y lle hwnnw. Er enghraifft, nid yw ystafell a ddisgrifir yn 20 troedfedd² yn mesur 20 troedfedd x 20 troedfedd, (a fyddai'n ystafell 400 troedfedd² mewn gwirionedd). Yn hytrach, byddai gan ystafell ag ochrau sy'n mesur 4 troedfedd x 5 troedfedd arwynebedd o 20 troedfedd².

    Unedau cydrannol:

    • Gellir isrannu 1 troedfedd² yn 144 modfedd sgwâr (Mod Sg - neu sgwariau ag ochrau sy'n mesur 1 fodfedd).

    Lluosrifau:

    • 1 llath sgwâr (Sq Yd) = 9 troedfedd²
    • Un llath yw tair troedfedd, felly gall llath sgwâr gael ei dychmygu fel sgwâr ag ochrau tair troedfedd, neu fel bloc sgwâr o naw sgwâr unigol ag ochrau un droedfedd o hyd.